News

02 December 2020 / Club News

LATEST WELSH RUGBY MEDIA RELEASE

 

 

 

WRU Status Update / Diweddariad Statws URC 02/12/2020


 

CONTENTS
1.     CEO comment  

2.     Burgess wins vice-chair as Board completes re-shuffle

3.     Club funding

4.     Rugby news

AWJ GATE-CRASHES NHS CALL

OWENS EARNS THE PLAUDITS

FINALLY... A FOND FAIRWELL FOR HOPKINS

 

CYNNWYS

1.       Sylw’r Prif Swyddog Gweithredol

2.       Burgess yn is-gadeirydd wrth i’r Bwrdd gwblhau ad-drefniad

3.       Cyllid clwb

4.       Newyddion rygbi

AWJ YN TORRI AR DRAWS CYFARFOD GIG

OWENS YN ENNILL Y CLOD

HWYL FAWR I HOPKINS


1.     CEO Comment

There is no denying that when Sports Minister Nigel Huddlestone announced a package of rescue funding measures over a week ago, he very much recognised the importance of rugby to society in England which left English rugby in a significantly better state than it had been moments before.

As you might expect, we have been asked a number of times for public comment on the subject since.  This is an invitation we have resisted to date and one which we will continue to resist whilst positive discussions are ongoing with Welsh Government. Suffice to say that we have impressed upon our First Minister the importance of Welsh rugby to our nation and have been explicit about the potentially devastating repercussion a continued shortfall in funding for our game will create. As you would expect me to, I’ve highlighted that rugby in Wales plays a bigger role in Welsh society than it does in England; it is the heartbeat of our communities.

The Covid-19 pandemic and the resultant measures to control it have hit Welsh rugby hard.  That is not only measured financially but more importantly on a societal basis where we are social animals within rugby and very much enjoy each other’s company; there are also endless wellbeing concerns including mental health to consider. We have looked to ourselves and done all that we can to ensure the survival of our member clubs and our professional game to date, but we have reached the point where external help is no longer a want, but a requirement.

We are looking for parity, on a fair and proportionate basis, with what has been provided to English rugby. Our clubs, our national teams, our regions, our community programmes – are all part of our DNA and all aspects of the game are under enormous stress. Sport is about parity, starting on a level playing field, therefore we don’t believe Welsh rugby should be disadvantaged compared to our near neighbours.

We are happy with negotiations so far and we are confident our voice is being heard and that our call for help, on behalf of the whole of Welsh rugby will be heard in earnest.

We have endeavoured, in all that we have done during this pandemic, to take responsibility and help shoulder the burden for fighting it wherever possible; whether that be making our collective facilities available to our NHS to local club players delivering food parcels within their communities.  We understand and empathise with the challenges faced by Welsh Government, who have many hungry mouths to feed as they guide us all to safety and, hopefully, a return to some semblance of normality once a vaccine arrives.

But we have not let this stop us from making the case for Welsh rugby to Welsh Government as we strive to ensure that we are able to count as many clubs out of this pandemic as we were able to boast at the start and that our professional game survives intact in a competitive fashion, ready to rise again once this is all over.

Not to act now would be unforgiveable and unthinkable for anyone Welsh.


Yours in rugby,

Steve Phillips

WRU CEO

 

2.     Burgess wins vice-chair as Board completes re-shuffle

Liza Burgess has been elected vice-chair of the Welsh Rugby Union Board.

A pioneer of the Women’s game, celebrated coach and former Wales captain, Burgess became the first female director to be elected to the Board via the route of winning a member club vote, in November 2019.

Her appointment completes a period of transition which has seen Robert Butcher take over from Gareth Davies as chairman and former group finance director Steve Phillips installed as CEO in place of the departing Martyn Phillips.

Ieuan Evans, who filled the position vacated by Davies when he won election to the Board, also replaces the former chair as one of the WRU’s three nominated representatives on World Rugby - alongside new chair Butcher and Executive Board member Julie Paterson who both continue in the roles.

Evans, the former Carmarthen Quins, Llanelli, Bath, Wales and British & Irish Lions wing who has forged a distinguished ambassadorial and media career since retirement, also joins the Lions Board alongside CEO Phillips.

Elsewhere the WRU chairman, Butcher, and CEO, Phillips, will represent the WRU on the Six Nations Board.

"It is an honour and a privilege to welcome Liza to the position of vice-chair of the WRU Board," said chairman Rob Butcher.

"Liza has been an integral member of our Board since her election in 2019 and though she is joined by other senior female figures in Amanda Blanc and Aileen Richards, as an elected representative she is a particularly powerful role model for the new breed of Board member we all hope our clubs will continue to help us produce.

"We also welcome Ieuan to two vitally important positions, on World Rugby and with the Lions, and I know he will represent Welsh rugby to the very highest of standards in both roles."

 

3.     Club funding

We have written to member clubs separately to advise in detail the process for, and background to, the conclusion of the Community Game Board (CGB) on the club funding model to be employed for the year ahead

In short, clubs will be awarded development funding based on an average of the amounts they received during the 2018/19 and 2019/20 seasons.

With the emergency funds (excluding Storm Dennis) already allocated since July 2020, the CGB has ensured that no club received less than they did last season.

Although exceptional, it was agreed this was in keeping with the desired aim to help all clubs emerge from the pandemic intact.

All clubs will shortly receive a letter outlining their specific development grant payments using the model described.

Schedule of Payments

Jul 27th PPE grant (already paid)

Sep 30th Core Grant (already paid)

Oct 30th Emergency Fund (already paid)

Nov 30th Core Grant and Emergency Fund

Dec 18th Development Grant – 1st payment

Dec 31st Emergency Fund

Jan 29th Core Grant

Feb 26th Development Grant – 2nd payment

April 30th Core Grant and 3rd Development Grant payment


4.     Return to rugby
We have recently been delighted to sanction the introduction of friendly tag (under 7s and under 8s) and touch rugby matches on a club v club basis for all levels of the game.
The WRU issued guidelines for this next phase of the WRU’s Return to Community Rugby plan during a webinar with more than 300 Club Operations Managers, covering areas such as car travel which should be within household bubbles only, and a framework for suggested touch rugby numbers and rules for this period.
Matches must be arranged between teams and clubs within the same WRU district, and strict safety and hygiene protocols are still a prerequisite for all training sessions and friendly matches.
More here: https://community.wru.wales/2020/11/25/tag-and-touch-rugby-matches-given-go-ahead/

5.     Rugby news
AWJ GATE-CRASHES NHS CALL
Alun Wyn Jones recently gate-crashed a video call with the Medicine Clinical Board at the Cardiff and Vale University Health Board.
The surprise call was arranged by S4C’s Clwb Rygbi programme and the WRU as a gesture of gratitude to hard-working NHS staff for their tireless efforts during the ongoing Covid-19 pandemic.
Clwb Rygbi presenter Catrin Heledd sprung the surprise on the unsuspecting staff by interrupting their meeting with a camera crew.
Aled Roberts, Medicine Clinical Board Director, Medicine Clinical Board, said: "The staff were so surprised to see Alun Wyn Jones ‘gatecrash’ our internal meeting but what better person to have join us! The team were delighted when they had a chance to ask him questions and were personally touched by his message of thanks.
"It was a wonderful boost to team morale, particularly as we face a challenging Winter and we’re so grateful that he took the time out to speak to us."
Jones said in the meeting: "The difference you’re making to society and communities is massive, so a huge thank you on behalf of our families, the squad and everyone involved with the Welsh Rugby Union."
A link to the clip: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1330078458656026624?s=20

OWENS EARNS THE PLAUDITS
Rugby royalty from around the world have showered Nigel Owens with personal messages of good will and well wishes on the eve of his record-breaking achievement of reaching 100 Tests as a referee.
Owens became the first referee in history to reach the magical milestone when he took charge of the Autumn Nations Cup third round clash at Stade de France which saw France defeat Italy 36-5 last weekend.
New Zealand captain Sam Cane, on behalf of the All Blacks, said he always admired the way Owens never took himself too seriously but is an ultimate professional and ‘when it comes to refereeing the game is a great man to have involved in our wonderful sport.’
World Cup winning coach Rassie Erasmus has congratulated Owens on the way he has been an example ‘for all of us on and off the field.’
"From all of South Africa, the rugby public and all the supporters and players we’d like to thank you and congratulate you on your achievement," added Erasmus.
Former Wales head coach Warren Gatland said what Owens ‘has achieved for Welsh rugby and world rugby is absolutely outstanding.’
Australian referee Angus Gardner added Owens was his idol growing up and it was great to have worked with him in recent years ‘and to reach 100 Tests is ‘amazing’
More here: https://www.wru.wales/video/owens-milestone-earns-global-plaudits/

FINALLLY... A FOND FAIRWELL FOR HOPKINS
One of Welsh rugby’s long standing Mini, Junior, Youth and Senior volunteers Mark Hopkins has stepped down from the Blues North region after 25 years of service to the Game in
Hopkins has been a community rugby volunteer for over 25 years primarily in Merthyr Tydfil, Merthyr & South Powys Junior District Association, Heart of Wales Junior District Association and within the District C U19 Game Management Group (GMG).  
He has fulfilled a wide and varied range of roles in his 25 years of service and has coached, team managed and support 100s of young male and female participants on their rugby journey.
Dowlais RFC is his club of origin where he coached his own son Lloyd from mini to youth rugby while also supporting local players who would develop to represent multiple clubs in the Merthyr Tydfil borough and beyond at a community and professional level. 
He also performed a number of volunteer committee functions at Dowlais RFC from fixture secretary to junior chairperson and has been a key administrator for
the Heart of Wales Junior District Association.
By his own admission Hopkins steps down to ‘hand over to new volunteer blood’ to drive the next generational support of U19 rugby in District C alongside the WRU, as well as needing to return to work commitments and family life.
"Mark has been an incredible and committed volunteer to rugby in Wales for over 25 years, his energy and drive epitomizes his selfless personality and passion for all things rugby in Wales," said WRU Regional Community Manager Gavin Dacey.
WRU Participation & Retention National Lead Chris Ower added: "Mark is a hugely respected person in Welsh rugby, he represents all that is good and so important as a community volunteer and administrator, his knowledge and support to Clubs surrounding Mini, Junior and Youth rugby over the years has been invaluable and on behalf of the WRU we would like to express our gratitude and I hope he will now be able to afford more time with his lovely family and cheering on Cardiff RFC or Cardiff Blues from the Arms Park Terraces."     

CYM...


1.       Sylw’r Prif Swyddog Gweithredol
Nid oes gwadu, pan gyhoeddodd y Gweinidog Chwaraeon Nigel Huddlestone dros wythnos yn ôl, y bydd cymorth drwy ffurf pecyn o fesurau ariannu ar gael, roedd yn cydnabod pwysigrwydd rygbi i gymdeithas yn Lloegr a adawodd rygbi Lloegr mewn cyflwr llawer gwell nag yr oedd wedi bod ynddi eiliadau ynghynt.
Fel y gallech ddisgwyl, gofynnwyd inni sawl gwaith am sylwadau cyhoeddus ar y pwnc ers hynny.  Dyma wahoddiad rydym wedi'i wrthsefyll hyd yma ac yn un y byddwn yn parhau i'w wrthsefyll tra bod trafodaethau cadarnhaol yn parhau gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n ddigon i ddweud ein bod wedi gwneud argraff ar ein Prif Weinidog ar bwysigrwydd Rygbi Cymru i'n cenedl. Rydym wedi bod yn glir ynglŷn â'r effaith ddinistriol bosibl y bydd diffyg parhaus mewn cyllid ar gyfer ein gêm yn ei chreu. Fel y byddech yn disgwyl i mi wneud hynny, rwyf wedi tynnu sylw at y ffaith bod rygbi yng Nghymru yn chwarae rhan fwy yng nghymdeithas Cymru nag y mae yn Lloegr; mae'n galonnog i'n cymunedau.
Mae pandemig Covid-19 a'r mesurau canlyniadol i'w reoli wedi taro Rygbi Cymru yn galed. Nid yn unig yw hyn yn cael sgîl effaith ariannol ond yn bwysicach yn gymdeithasol. Rydym fel rhywogaeth, yn cymdeithasu o fewn rygbi ac yn mwynhau cwmni ei gilydd yn fawr; ac felly mae pryderon lles diddiwedd i’w hystyried gan gynnwys iechyd meddwl.  Yr ydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein clybiau sy'n aelodau a'n gêm broffesiynol yn goroesi hyd yma. Erbyn hyn yr ydym wedi cyrraedd y pwynt lle nad eisiau cymorth allanol ydyn ni, ond ei angen.
Yr ydym yn chwilio am gydraddoldeb, ar sail deg a chymesur, â'r hyn a roddwyd i rygbi Lloegr. Mae ein clybiau, ein timau cenedlaethol, ein rhanbarthau, ein rhaglenni cymunedol – i gyd yn rhan o'n DNA ac mae pob agwedd o’r gêm dan straen enfawr. Mae chwaraeon yn ymwneud â chydraddoldeb, a chwarae teg i bawb, felly nid ydym yn credu y dylai Rygbi Cymru fod o dan anfantais o'i gymharu â'n cymdogion agos.
Rydym yn hapus gyda’r trafodaethau hyd yn hyn ac rydym yn hyderus bod ein llais yn cael ei glywed ac y bydd ein galwad am help, ar ran Rygbi Cymru gyfan, yn cael ei chlywed o ddifrif.
Rydym wedi ymdrechu, ym mhob dim yr ydym wedi'i wneud yn ystod y pandemig hwn, i gymryd cyfrifoldeb a helpu i ysgwyddo'r baich o'i ymladd lle bynnag y bo modd; o sicrhau fod ein cyfleusterau cyfunol ar gael i'n GIG i chwaraewyr clwb lleol yn darparu parseli bwyd yn eu cymunedau. Rydym yn deall ac yn cydymdeimlo â'r heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, sydd â llawer o bobl lwglyd i'w bwydo wrth iddynt ein harwain i gyd at ddiogelwch a, gobeithio, dychwelyd at ryw fath o normalrwydd unwaith y bydd brechlyn yn cyrraedd.
Ond nid ydym wedi gadael i hyn ein hatal rhag cyflwyno'r achos dros Rygbi Cymru i Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn gallu cyfrif cymaint o glybiau a phosib allan o'r pandemig hwn ar y dechrau, a bod ein gêm broffesiynol wedi goroesi mewn modd cystadleuol, ac yn barod i lewyrchu unwaith eto pan y bydd hyn i gyd drosodd.
Byddai peidio â gweithredu nawr yn anfaddeuol ac yn afresymol i unrhyw un Cymreig.  
Yr eiddoch mewn rygbi,

Steve Phillips
Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru


2.       Burgess yn is-gadeirydd wrth i’r Bwrdd gwblhau ad-drefniad
Mae Liza Burgess wedi cael ei hethol yn is-gadeirydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru.
Yn arloeswr gêm y Merched, hyfforddwr enwog a chyn-gapten Cymru, Burgess oedd y cyfarwyddwr benywaidd cyntaf i gael ei ethol i'r Bwrdd drwy'r ennill pleidlais aelodau clwb, ym mis Tachwedd 2019.
Mae ei phenodiad yn cwblhau cyfnod pontio ble mae Robert Butcher yn cymryd yr awenau oddi wrth Gareth Davies fel cadeirydd, a chyn-gyfarwyddwr cyllid y grŵp Steve Phillips yn cymryd lle Martyn Phillips fel Prif Swyddog Gweithredol.
Mae Ieuan Evans, a lenwodd y swydd a adawodd Davies pan enillodd etholiad i'r Bwrdd, hefyd yn cymryd lle'r cyn-gadeirydd fel un o dri chynrychiolydd enwebedig URC ar Rygbi'r Byd - ochr yn ochr â'r cadeirydd newydd Butcher ac aelod o'r Bwrdd Gweithredol Julie Paterson sydd ill dau'n parhau yn y rolau.
Mae Evans, cyn-adain Cwins Caerfyrddin, Llanelli, Caerfaddon, Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon sydd wedi creu gyrfa nodedig lysgenhadol ac yn y cyfryngau ers ymddeol, hefyd yn ymuno â Bwrdd y Llewod ochr yn ochr â Steve Philips.
Hefyd, bydd cadeirydd URC, Robert Butcher, a’r Prif Swyddog Gweithredol, Steve Phillips, yn cynrychioli URC ar Fwrdd y Chwe Gwlad.
"Mae'n anrhydedd ac yn fraint croesawu Liza fel is-gadeirydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru," meddai'r cadeirydd Rob Butcher.
"Mae Liza wedi bod yn aelod annatod o'n Bwrdd ers ei hethol yn 2019. Er bod ffigyrau benywaidd eraill fel Amanda Blanc ac Aileen Richards yn ymuno â hi, fel cynrychiolydd etholedig mae hi'n fodel rôl arbennig o bwerus i'r brîd newydd o aelod o'r Bwrdd yr ydym yn gobeithio y bydd ein clybiau yn parhau i'n helpu i gynhyrchu.
"Rydym hefyd yn croesawu Ieuan i ddwy swydd hollbwysig, gyda Rygbi'r Byd a chyda'r Llewod, ac rwy'n gwybod y bydd yn cynrychioli Rygbi Cymru i'r safonau uchaf yn y ddwy rôl."

3.       Cyllid Clwb
Rydym wedi ysgrifennu yn unigol at glybiau sy'n aelodau i egluro’n fanwl y broses, a’r cefndir, i gasgliad y Bwrdd Gemau Cymunedol ynglŷn â’r model ar gyfer cyllid i glybiau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Yn fyr, dyfernir cyllid datblygu i glybiau yn seiliedig ar gyfartaledd o'r symiau a gawsant yn ystod tymhorau 2018/19 a 2019/20.
Gyda'r cronfeydd brys (ac eithrio Storm Dennis) eisoes wedi'u dyrannu ers mis Gorffennaf 2020, mae Bwrdd Gemau Cymunedol wedi sicrhau na chafodd unrhyw glwb swm llai nag a wnaethant y tymor diwethaf.
Er ei fod yn eithriadol, cytunwyd bod hyn yn cyd-fynd â'r nod dymunol i helpu pob clwb i ddod allan o'r pandemig ynghyd.
Cyn bo hir, bydd pob clwb yn derbyn llythyr yn amlinellu eu taliadau grant datblygu penodol gan ddefnyddio'r model a ddisgrifir.
Rhestr o Daliadau
Gorffennaf 27ain Grant Cyfarpar Diogelu Personol (a dalwyd eisoes)
Medi 30ain Grant Craidd (a dalwyd eisoes)
Hydref 30ain Cronfa Argyfwng (a dalwyd eisoes)
Tachwedd 30ain Grant Craidd a'r Gronfa Argyfwng
Rhagfyr 18fed Grant Datblygu – Taliad 1af
Rhagfyr 31ain Cronfa Argyfwng
Ionawr 29ain Grant Craidd
Chwefror 26ain Grant Datblygu - 2il daliad
Ebrill 30ain Grant Craidd a 3ydd Taliad Grant Datblygu

4.       Dychwelyd i Rygbi
Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn falch iawn o gymeradwyo cyflwyno gemau cyfeillgar rygbi tag (dan 7 oed a dan 8 oed) a gemau cyfeillgar rygbi chyffwrdd ar sail clwb yn erbyn clwb ar gyfer pob lefel o'r gêm.
Cyhoeddodd URC ganllawiau ar gyfer y cam nesaf yma o gynllun Dychwelyd i Rygbi'r Gymuned URC yn ystod gweminar gyda mwy na 300 o Reolwyr Gweithrediadau Clwb, yn trafod materion fel yr angen i deithio mewn car o fewn swigod cartrefi yn unig, a fframwaith awgrymedig ynglŷn â niferoedd a rheolau rygbi cyffwrdd ar gyfer y cyfnod hwn.
Rhaid trefnu gemau rhwng timau a chlybiau o fewn yr un ardal URC, ac mae protocolau diogelwch a hylendid llym yn parhau yn hanfodol ar gyfer pob sesiwn hyfforddi a gemau cyfeillgar.
Mwy yma: https://community.wru.wales/2020/11/25/tag-and-touch-rugby-matches-given-go-ahead/

5.       Newyddion Rygbi
AWJ YN TORRI AR DRAWS CYFARFOD GIG
Yn ddiweddar, gwnaeth Alun Wyn Jones dorri ar draws fideo gyda'r Bwrdd Clinigol Meddygaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Trefnwyd yr alwad annisgwyl gan raglen Clwb Rygbi S4C ac URC fel arwydd o ddiolch i staff gweithgar GIG yn eu hymdrechion diflino yn ystod pandemig parhaus Covid-19.
Fe wnaeth cyflwynydd Clwb Rygbi Catrin Heledd dorri ar draws y cyfarfod yn annisgwyl gyda chriw camera.
Dywedodd Aled Roberts, Cyfarwyddwr Y Bwrdd Clinigol Meddygaeth: "Roedd y staff wedi syfrdannu o weld Alun Wyn Jones yn ymuno a’n cyfarfod mewnol, ond pwy well i ymuno â ni! Roedd y tîm wrth eu bodd o’r cyfle i ofyn cwestiynau iddo ac wedi eu calonogi gan ei neges o ddiolch.
"Roedd yn hwb gwych i frwdfrydedd y tîm, yn enwedig wrth i ni wynebu Gaeaf heriol ac rydym mor ddiolchgar ei fod wedi cymryd yr amser allan i siarad â ni."
Dywedodd Jones yn y cyfarfod: "Mae'r gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud i gymdeithas a chymunedau yn enfawr, felly diolch yn fawr ar ran ein teuluoedd, y garfan a phawb sy'n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru."
Linc i'r clip: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1330078458656026624?s=20

OWENS YN ENNILL Y CLOD
Mae Nigel Owens wedi derbyn llu o negeseuon personol o ewyllys da a dymuniadau da gan enwogion o’r byd rygbi ar drothwy dyfarnu 100 o gemau prawf, camp arloesol.
Owens oedd y dyfarnwr cyntaf mewn hanes i gyrraedd y garreg filltir hudolus yn ystod gem Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn Stade de France a welodd Ffrainc yn trechu'r Eidal 36-5 y penwythnos diwethaf.
Dywedodd capten Seland Newydd, Sam Cane, ar ran y Crysau Duon, ei fod bob amser yn edmygu'r ffordd nad oedd Owens byth yn cymryd ei hun yn rhy ddifrifol ond ei fod yn weithiwr proffesiynol yn y pen draw a 'phan ddaw'n fater o ddyfarnu’r gêm mae’n ddyn gwych i’w gael yn rhan o’n camp.'
Mae hyfforddwr buddugol Cwpan y Byd Rassie Erasmus wedi llongyfarch Owens ar y ffordd y mae wedi bod yn esiampl i bob un ohonom ar y cae ac oddi arno.'
"Gan bawb yn Ne Affrica, y cyhoedd a'r holl gefnogwyr a chwaraewyr hoffem ddiolch i ti a dy longyfarch ar dy gyflawniad," ychwanegodd Erasmus.
Dywedodd cyn-brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, fod yr hyn y mae Owens 'wedi'i gyflawni ar gyfer Rygbi Cymru a Rygbi'r Byd yn gwbl eithriadol.'
Ychwanegodd canolwr Awstralia Angus Gardner fod Owens yn arwr iddo wrth dyfu i fyny, ac roedd yn wych gweithio gydag ef yn ystod y blynyddoedd diwethaf 'ac mae cyrraedd 100 o gemau prawf yn 'anhygoel'
Mwy yma: https://www.wru.wales/video/owens-milestone-earns-global-plaudits/

HWYL FAWR I HOPKINS
Mae un o wirfoddolwyr hirsefydlog rygbi i blant bach, iau, ieuenctid â hyn yn Rygbi Cymru, Mark Hopkins, wedi camu'n ôl o ranbarth Gogledd y Gleision ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth i'r gêm.
Mae Hopkins wedi bod yn wirfoddolwr rygbi cymunedol ers dros 25 mlynedd yn bennaf yng Nghymdeithas Ardaloedd Iau Merthyr Tudful, Merthyr a De Powys, Cymdeithas Ardaloedd Iau Canol Cymru ac o fewn Grŵp Rheoli Gêm Dan 19 Ardal C.
Mae wedi cyflawni ystod eang ac amrywiol o rolau yn ei 25 mlynedd o wasanaeth ac mae wedi hyfforddi, rheoli tîm a chefnogi datblygiad cannoedd o gyfranogwyr ifanc ar eu taith ym myd rygbi.
Yn Clwb Rygbi Dowlais y dechreuodd Hopkins. Bu'n hyfforddi ei fab Lloyd pan ddechreuodd chwarae rygbi i blant bach ac yna ymlaen i’r tîm ieuenctid, tra hefyd yn cefnogi chwaraewyr lleol a ddatblygodd i gynrychioli nifer o glybiau ym mwrdeistref Merthyr Tudful a thu hwnt ar lefel gymunedol a phroffesiynol.  
Roedd ganddo hefyd nifer o swyddogaethau ar bwyllgor Clwb Rygbi Dowlais, o rôl fel ysgrifennydd trefnu gemau i gadeirydd y tîm iau. Mae hefyd wedi bod yn weinyddwr allweddol ar gyfer Cymdeithas Adraloedd Iau Canol Cymru.
Cyfaddefodd Hopkins ei fod yn camu’n ôl er mwyn 'trosglwyddo i waed gwirfoddol newydd',  y genhedlaeth nesaf a fydd yn cefnogi rygbi dan 19 yn Ardal C ochr yn ochr ag URC, ac oherwydd ymrwymiadau ei waith a bywyd teuluol.
"Mae Mark wedi bod yn wirfoddolwr ymroddedig gwych i rygbi yng Nghymru ers dros 25 mlynedd. Mae ei egni a’i frwdfrydedd yn crynhoi ei bersonoliaeth anhunanol a'i angerdd dros bob peth sy’n ymwneud a rygbi yng Nghymru," meddai Rheolwr Cymunedol Rhanbarthol URC, Gavin Dacey.
Ychwanegodd Chris Ower, Rheolwr Cyfranogiad Cenedlaethol URC: "Mae Mark yn berson uchel ei barch yn Rygbi Cymru. Mae'n cynrychioli popeth sy'n dda ac mor bwysig mewn gwirfoddolwr a gweinyddwr cymunedol. Mae ei wybodaeth a'i gefnogaeth i clybiau sy'n ymwneud â rygbi i blant bach, blant iau ac ieuenctid dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy. Ar ran URC hoffem fynegi ein diolch, a gobeithio y bydd yn awr yn gallu treulio mwy o amser gyda'i deulu hyfryd a chefnogi Clwb Rygbi Caerdydd neu Dîm Gleision Caerdydd o derasau Parc yr Arfau."     

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos

Comment
You must be signed in to add comments
Comments
|